Wefan llawn yn dod yn fuan

Wefan llawn yn dod yn fuan

Tra dwi'n gorffen gwaith ar y gwefan llawn plîs teimlwch yn rhydd i cael sgrôl a darlleniad yn fama. Hefyd croeso i cysylltu ‘da fi efo unrhyw cwestiynau sydd ganddo chi.

To see this page in English click here

Lluniau gan Kasper Siebrands

Be da na’i neud?

Addysg, hyfforddiant a arweinyddiaeth antur yn, efo a trwy natur gwyllt; yn Gogledd Cymru a tŷ hwnt.

Datblygu profiadau unigryw i galluogi pobol i well cysylltu efo yr amgylchedd a'i nhw eu hunain.

Cynnig gweithgareddau difir o fewn dringo (dam do ac ar graig); cerdded/myndda a cyrsiau DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus)

  • Aled Oddy

    SYLFAENYDD

    Dringwr, sgïwr a mynyddwr o De Ynys Môn sydd wedi mynd ymlaen i creu swydd allan o rhannu yr angerdd mynydol ‘da pobol.

    Tyfais i fynnu yn edrych allan o ffenest yr gegin at copaon Eryri cyn mynd i cerdded nhw efo mam a ar ôl chydig cychwn dringo efo ffrindiau a wedyn digwydd gweithio yn siop awyr agored (Crib Goch yn Llanberis). Erbyn heddiw rwyf yn addysgydd craig-ddingo (RCI) a arweinydd mynyddol (ML) cymwysedig.

    Ar ben yr ddau cymhwyster yma rwyf wedi neud nifer o cyrsiau ychwanegol i cryfhau fy nghyrfa fel cyrsiau FUNdamentals yr BMC, cwrs hyfforddyddd dringo sylfaen (FC), hyffordiant corfforol (am dringo) a rwyf yn llysgennad Eryri gradd aur.

Be ydi friluftsliv?

Mae ‘friluftsliv’ neu ‘frilo’ yn fyr yn athroniaeth Norwyeg mi wnes i darganfod yn personol tra yn astudio am flwyddyn yn folkehøyskole (ysgol uwchradd gwerin) uwch ben yr cylch arctig.

Yr syth-cyfieithiad ‘sa ‘bywyd awyr rhydd’ ond yn cyffredinol y ffordd mi wnes i dod i deuallt a gwerthfawrogi o oedd o rhan yr syniad bod yn hytrach ‘na ceisio gweld yr gweithgareddau anturus da ni’n caru ar wahân i’r amgylchedd maent yn digwydd yn a gor-ynysu yn erbyn e bod rhaid derbyn bod ni allwn cael un yn llawn heb yr llall.

Yn cyd â hyn o fewn friluftsliv mae yna hefyd pwysleisiau ar agweddau eraill o gwylltcrefft traddodiadol fel ‘bål’ sef fel arfer yn golygu cynnal tân ymhysg ffrindiau a yn tebyg yn sefyllfa cymharol gwyllt a hel llus a llysiau eraill o'r tirwedd i neud pethau oddi wrthynt.

Rŵan dwi’n hollol ymwybodol bod ni allai traws-plannu bob dim o be rwyf wedi disgrifio yn union, a nid mond oherwydd yr gwahaniaethau yn diwydiant a rheolau am dan tan, ond rwyf yn awyddus o leiaf rhannu yr profiad o cymysg rhwng annibyniaeth personol a cyd-ddibyniaeth efo natur mi wnes i profi yno efo yr unigolion a grwpiau rwyf yn gweithio a dynna yn union pam mi wnes i galw yr bussiness yn Aled Oddy Friluftsliv.

Prosiectau iaith Cymraeg.

Rwyf yn frwdfrydig dros ben i hybu a llednu defnydd yr iaith Cymraeg o fewn yr byd awyr agored a felly mae nifer o’r cyrsiau DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) a prosiectau gwaith rwyf yn gweithio ar ar yr foment i neud ‘da hynnu. Yn yr gorffennol mi ydw i hefyd wedi rhoi darlithiau a redeg sgyrsiau fer ar yr pynciau isod ar gyfer Cymdeithas Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor a Cymdeithas Eryri.

Datblygu termau dringo Cymraeg

Wedi fy ysbrydoli o fy mhrofiad yn astudio yn Norwy a efo’r techneg-termau a defnyddir yno rwyf wedi gwario amser go dda o'r blwyddyn diwethaf yn hel termau dringo o Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Norwyeg, Iaith Gwlad yr Iâ, Ffinneg, Pwyleg, Hebraeg, Rwsieg a Siapanieg a hefyd rheu Cymraeg o hen llyfrau mynydda/dringo Cymraeg. Ar gefn y gwaith yma rwyf yn proses datblygu termau a adnoddau ar gyfer datgelu sesiynau dringo trwy cyfrwng y Cymraeg a felly yn awyddus i siarad i unrhyw un sydd efo diddordeb yn/syniadau am dan hynnu.

Yn yr tymor-canol rwyf yn bwriadu creu adnoddau iaith Cymraeg i dringwyr a addysgyddion/hyfforddwyr ond hefyd datblygu mwy am dringo o mewn yr cyfryngau Cymraeg. Yn y pendraw yr bwriad yw i redeg sesiynau DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) ar yr pŵnc a yr gobaith yw fod bob person sydd isio dysgu dringo yn Cymraeg yn cael y cyfle i neud.

Functional Welsh for the mountains.

Bwriad yr cwrs DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) yma fydd i galluogi arweinwyr ddi-gymraeg neu sydd yn proses dysgu yr iaith cael cyfle i dod i deualldwriaeth o yr elfennau symyl, megis ‘carnedd’ a ‘waun’, sydd mor amlwg yn enwau ein llefydd a mynyddoedd. Yr syniad yw i osgoi geir-darddiadon cymhleth a hytrach canolbwyntio ar rheini a all ei defnyddio tro ar ôl tro a i well deall yr mapiau ‘da ni’n defnyddio; canolbwyntio ar yr ‘Carnedd’ yn hytrach na’r ‘Filiast’ fel dwi'n hoff o ddeud.

Dwi'n gobeithio mi fydd yr cwrs yma yn barod pryd ddaw yr hydref a wedyn yr gobaith yw creu ail darn sydd yn neud rhwbeth tebyg ond yn canolbwyntio ar elfennau fel yr tywydd, llysieiant a sut i cyfarch rhywun yn syml. Yn y pendraw mae gobaith neud rhwbeth tebyg fel DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) i Arweinwyr Mynyddol iaith Cymraeg.

Os genddo chi unrhyw diddordeb yn cymryd rhan yn hein neu cyfrannu syniadau plîs defnyddiwch yr blwch cyswllt isod.

Cael yn cysywllt.

Os oes gennych unrhyw cwestiynau am dan yr uchod neu tŷ hwynt teimlwch yn rhydd i negesu ni yma.

Hefyd os oes gen chi diddordeb o arweinyddiaeth mynydd, addysgiant/hyfforddiant dringo neu unrhyw profiad arall yr ydych yn credu allai helpu efo teimlwch yn rhydd i gysylltu.